Cherrapunji

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cherrapunji
Arwydd yn cofnodi gwlypder Cherrapunji
Mathtref, prifddinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth14,816 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:30 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirEast Khasi Hills district Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Uwch y môr1,484 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau25.2792°N 91.7242°E Edit this on Wikidata
Cod post793108 Edit this on Wikidata
Map

Tref fechan yn ne canolbarth Meghalaya, gogledd-ddwyrain India, yw Cherrapunji. Fe'i lleolir ym Mryniau Khasia 58 km i'r de o Shillong ger y ffin â Bangladesh. Ceir golygfeydd braf draw dros Fangladesh pan fo'r tywydd yn braf, ond anaml y digwyddir hynny am fod Cherrapunji yn un o'r llefydd gwlypaf ar y blaned. Mae tua 1150 cm (40 troedfedd) o law yn syrthio yno bob blwyddyn. Y record yw 2646 cm (90 troedfedd bron)!

Yn y bryniau ger y dref mae 'Krem Mawmluh', system ogofâu sy'n 4.5 km o hyd.