Popocatépetl

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Popocatépetl
Mathllosgfynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Mecsico, Puebla, Morelos Edit this on Wikidata
GwladBaner Mecsico Mecsico
Uwch y môr5,452 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau19.02222°N 98.62778°W Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd3,020 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaCitlaltepetl Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddGwregys Folcanig Traws-Mecsico Edit this on Wikidata
Map
Deunyddandesite Edit this on Wikidata

Llosgfynydd ym Mecsico yw Popocatépetl (Nahwatleg: Popōca tepētl, "y mynydd sy'n mygu"). Saif yng nghanolbarth y wlad, ar ffiniau taleithiau Morelos, Puebla a Mecsico a 55 km i'r de-ddwyrain o Ddinas Mecsico.

Popocatépetl yw llosgfynydd ail-uchaf Mecsico, ar ôl Pico de Orizaba. Ers 1354, cofnodir iddo ffrwydro 18 o weithiau. Cofnodir i aelodau o lwyth y Tecuanipas ddringo'r mynydd yn 1289, ac i'r Sbaenwyr dan Diego de Ordás ei ddringo yn 1519. Yn 1994, dynodwyd y mynachlogydd ar ei lethrau yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Eginyn erthygl sydd uchod am Fecsico. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato