Llanwyddelan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Llanwyddelan
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGwyddelan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.599907°N 3.356826°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRussell George (Ceidwadwyr)
AS/au y DUCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Dwyriw, Powys, Cymru, yw Llanwyddelan.[1][2] Saif yng ngogledd y sir tua 7 milltir i'r gogledd o'r Drenewydd a thua 4 milltir i'r de o bentref Llanfair Caereinion.

Mae'r eglwys yn un o ddau yng Nghymru a gysegrir i Sant Gwyddelan, gyda Dolwyddelan yn Eryri.

Cafodd y bardd a golygydd Walter Davies (Gwallter Mechain) bersoniaeth Llanwyddelan ar 20 Mai 1803; aeth oddi yno yn ficer ym Manafon yng Ngorffennaf 1807.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 5 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.