Himachal Pradesh

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Himachal Pradesh
Mathtalaith India Edit this on Wikidata
PrifddinasShimla Edit this on Wikidata
Poblogaeth6,864,602 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1971 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethSukhvinder Singh Sukhu Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:30 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirIndia Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd55,780 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,319 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaUttarakhand, Punjab, Haryana, Jammu and Kashmir, Ladakh, Rhanbarth Ymreolaethol Tibet, Uttar Pradesh Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.1033°N 77.1722°E Edit this on Wikidata
Cod post17 Edit this on Wikidata
IN-HP Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolHimachal Pradesh Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholHimachal Pradesh Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethAcharya Dev Vrat, Shiv Pratap Shukla Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Chief Minister of Himachal Pradesh Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethSukhvinder Singh Sukhu Edit this on Wikidata
Map

Mae Himachal Pradesh (Hindi: हिमाचल प्रदेश), yn dalaith yng ngogledd India. Mae'n ardal fynyddig, yn ffinio ar Tibet yn y dwyrain, Jammu a Kashmir yn y gogledd, Punjab yn y de-orllewin, Haryana ac Uttar Pradesh yn y de ac Uttarakhand yn y de-ddwyrain. Gydag arwynebedd o 55,658 km² (21,490 milltir sgwar), mae Himachal Pradesh yn un o daleithiau llai India. Roedd y boblogaeth yn 6,077,248 yn 2001.

Prifddinas y dalaith yw Shimla, ac mae trefi pwysig eraill yn cynnwys Solan, Dharamsala, Kangra, Mandi, Kullu, Chamba, Hamirpur, Dalhousie aManali. Mae rhan orllewinol yr Himalaya yn y gogledd a'r dwyrain, a Bryniau Siwalik yn y de. Prif afonydd y dalaith yw'r Sutlej, Ravi, Chenab, Beas a'r Yamuna.

Mae economi'r dalaith yn dibynnu ar dwristiaeth a thyfu afalau, ac mae'n gwerthu trydan i rannau eraill o India. Yn ninas Solan, Bragdy Solan yw'r bragdy hynaf yn Asia.


Taleithiau a thiriogaethau India
Taleithiau Andhra PradeshArunachal PradeshAssamBiharChhattisgarhGoaGorllewin BengalGujaratHaryanaHimachal PradeshJharkhandKarnatakaKeralaMadhya PradeshMaharashtraManipurMeghalayaMizoramNagalandOrissaPunjabRajasthanSikkimTamil NaduTelanganaTripuraUttarakhandUttar Pradesh
Tiriogaethau Ynysoedd Andaman a NicobarChandigarhDadra a Nagar HaveliDaman a DiuDelhiJammu a KashmirLakshadweepPuducherry