Ciara Horne
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Ciara Maurizia Horne |
Dyddiad geni | [1] | 17 Medi 1989
Taldra | 1.79m[2] |
Pwysau | 60kg[2] |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Trac a ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Dygner |
Tîm(au) Amatur | |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2014– |
Pearl Izumi Sports Tours International[3] |
Golygwyd ddiwethaf ar 11 Awst 2016 |
Seiclwraig Prydeinig yw Ciara Maurizia Horne (ganwyd 17 Medi 1989), sy'n cynyrchioli Cymru ar hyn o bryd. Gynt, bu'n cynyrchioli Iwerddon yn rhyngwladol.
Magwyd Horne yn Kenilworth, ger Coventry, Swydd Warwick, a mynychoddd Ysgol Ramadeg Merched Stratford,[4] Enillodd Horne radd dosbarth cyntaf mewn Ffisiotherapi o Brifysgol Birmingham yn 2013.
Cychwynnodd Horne ei gyrfa ym myd chwaraeon fel nofwraig, gan gystadlu o 7 oed, a mynd ymlaen i gystadlu'n rhyngwladol hyd oedd hi'n 16 oed, pan anafodd ei hysgwydd a bu angen iddi gael llawdriniaeth. Dyma ysgogodd Horne i newid i gystadlu mewn triathlon, gan ennill lle yn y rhaglen "world class start" a chystadlu yng Nghwpan y Byd Iau yn Salford, ble daeth yn 8fed. Ond, bu'n dal i ddioddef o amryw anafiadau, felly drwy seiclo y horfforddodd yn bennaf, a dyna sut y magwyd ei pherthynas gyda'r beic. Ymunodd Horne â thîm seiclo am y tro cyntaf ym mis Hydref 2009.[5]
Roedd Horne wedi cymhwyso i gynrychioli Iwerddon try ei mam, ond ym mis Gorffennaf 2012, ildiodd Horne ei dinasyddiaeth o'r Iwerddon.[6] Gan y bu ganddi dinasyddiaeth ddeuol, cymhwysodd Horne i seiclo dros Brydain gyda thrwydded British Cycling. Ganwyd ei thad yn y Barri, Bro Morgannwg, ac elly derbyniodd y cynnig i hyfforddi gyda thîm Cymru.[7]
Cynrychiolodd Horne Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2014,[8] gan gystadlu yn y treial amser a'r pursuit unigol.[2]
Palmarès
[golygu | golygu cod]- 2011
- 2il Treial amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Iwerddon
- 2il Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Iwerddon
- 2il Ras scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Iwerddon
- 2012
- 2il Pursuit tîm, Rownd 1, Cwpan Seiclo Trac y Byd, UCI 2012–2013, Cali (gyda Amy Roberts & Elinor Barker)
- 2013
- 3ydd Pursuit tîm, Rownd 3, Cwpan Seiclo Trac y Byd, UCI 2012–2013, Cali (gyda Amy Roberts & Elinor Barker)
- 2014
- 1af Pursuit tîm, Rownd 1, Cwpan Seiclo Trac y Byd, UCI 2014–2015, Guadalajara (gyda Laura Trott, Elinor Barker & Amy Roberts)[9]
- 1af Pursuit tîm, Rownd 2, Cwpan Seiclo Trac y Byd, UCI 2014–2015, Llundain (gyda Laura Trott, Elinor Barker & Katie Archibald)[10]
- 2il Pursuit tîm, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (gyda Katie Archibald, Sarah Storey & Anna Turvey)[11]
- 2015
- 1af Pursuit tîm Pencampwriaethau Trac Ewrop
- 1af Pursuit tîm, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (gyda Katie Archibald, Sarah Storey & Joanna Rowsell)[12]
- 2il Tour of the Reservoir[13]
- 3ydd Pursuit unigol, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain[14]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "High Performance > Athletes > Ciara Horne". The Irish Sports Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-05. Cyrchwyd 2013-01-23.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Ciara Horne: Biography". Glasgow 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2014-07-30.
- ↑ "Introducing Pearl Izumi Sports Tours International". ciarahorne.com. 19 March 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-25. Cyrchwyd 25 September 2014.
- ↑ "Horne's Olympic dreams ride on raising £10,000". The Courier (Warwick). 2011-09-19.[dolen farw]
- ↑ "Ciara Horne – interview with the Irish team member in Cali". Women's Cycling Ireland. 2010-12-14. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-18. Cyrchwyd 2016-08-11.
- ↑ "Ciara Horne declares for Great Britain; blames lack of money in Cycling Ireland". Sticky Bottle. 2012-07-04.
- ↑ "About". Ciara Horne. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-15. Cyrchwyd 2013-01-23.
- ↑ "Commonwealth Games 2014: Olympic champion Geraint Thomas and world sprint star Becky James head up Welsh cycling team for Glasgow". Wales Online. 2014-07-09.
- ↑ "Track Cycling World Cup: Laura Trott in GB team to win gold". bbc.co.uk. 9 November 2014. Cyrchwyd 10 November 2014.
- ↑ "Track Cycling World Cup: Britain claim double team pursuit gold". bbc.co.uk. 5 December 2014. Cyrchwyd 6 December 2014.
- ↑ "British National Track Championships 24th-28th September 2014: Communiqué No. 009" (PDF). trackworldcup.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-04-18. Cyrchwyd 25 September 2014.
- ↑ "British National Track Championship 25th-27th September 2015: Communiqué No 044: Category Female: Event 15km Scratch Race: Round Final Result" (PDF). British Cycling. Cyrchwyd 27 September 2015.
- ↑ Williams, Huw (12 April 2015). "Dani King takes overall victory in Tour of Reservoir in Women's Road Series". British Cycling. Cyrchwyd 18 April 2015.
- ↑ "British National Track Championships 25th-27th September 2015: Communiqué No 018: Category Female: Event 3000m Pursuit: Round Final Result" (PDF). British Cycling. Cyrchwyd 27 September 2015.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol
- Proffil Ciara Horne ar Cycling Archives
- Ciara Horne ar Twitter