Cetura

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cetura
DinasyddiaethCymeriad Beiblaidd
PriodAbraham Edit this on Wikidata
PlantSimran, Jocsan, Medan, Midian, Isbac, Sua Edit this on Wikidata

Roedd Cetura (Hebraeg: קְטוּרָה,, o bosib yn golygu arogldarth) yn ordderchwraig [1] ac wedyn yn wraig i'r patriarch Beiblaidd Abraham. Yn ôl Llyfr Genesis, priododd Abraham â Cetura ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf, Sara.[2] Roedd gan Abraham a Cetura chwe mab. Enwau'r meibion oedd Simran, Jocsan, Medan, Midian, Isbac a Sua.[3] Daeth y chwe mab yn sylfaenwyr chwe llwyth Arabaidd a sefydlodd i'r de a'r dwyrain o Balestina.[4]

Mae nifer o sylwebyddion Iddewig wedi honni mae un person yw Cetura ac Aga, morwyn Sara a gordderchwraig Abraham.[5] Cafodd Aga ei throi allan o dylwyth Abraham oherwydd cenfigen Sara. Yr honiad yw ei bod wedi dychwelyd, o dan enw gwahanol, wedi marwolaeth Sara. Mae'r mwyafrif o sylwebyddion Cristionogol yn dweud bod Aga a Centura yn ddwy fenyw wahanol.

Mae ymlynwyr y ffydd Bahá'í yn credu bod eu sylfaenydd, Bahá'u'lláh, yn un o ddisgynyddion Cetura a Sara.[6]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Lle fo cyfeiriad yn destun Beiblaidd, bydd dilyn y cysylltiad yn mynd at rifyn Beibl William Morgan Cymdeithas Feiblaidd Prydain a Thramor, 1992 ar wefan Bible Gateway. Am destun mwy cyfoes gellir chwilio am yr un adnodau ar dudalen chwilio Beibl Net
  1. 1 Cronicl 1:32
  2. The Israel Bible – Keturah[dolen farw] adalwyd 29 Awst 2020
  3. Genesis 25:1 a Genesis 25:6
  4. Jewish Virtual Library – Keturah adalwyd 29 Awst 2020
  5. Parashat Hayye Sarah 5764/ Tachwedd 22, 2003 - Who was Ketura? Archifwyd 2020-08-09 yn y Peiriant Wayback adalwyd 29 Awst 2020
  6. Hatcher, W.S.; Martin, J.D. (1998). The Bahá'í Faith: The Emerging Global Religion. Wilmette, IL: Bahá'í Publishing Trust. ISBN 0877432643.