Asid 4-aminosalicylig
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | aminosalicylic acids |
Màs | 153.043 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₇h₇no₃ |
Clefydau i'w trin | Colitis crohn, diciâu |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | aminosalicylic acids |
Màs | 153.043 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₇h₇no₃ |
Clefydau i'w trin | Colitis crohn, diciâu |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae asid 4-aminosalicylig sydd hefyd yn cael ei alw’n asid para-aminosalicylig (PAS), yn wrthfiotic a ddefnyddir yn bennaf i drin twbercwlosis.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₇H₇NO₃.
Defnydd
[golygu | golygu cod]Mae asid para- aminosalisilig (PAS) yn wrthfiotig a ddefnyddir yn bennaf i drin diciâu[2]. Yn benodol, fe'i defnyddir, ynghyd â meddyginiaethau eraill, i drin diciâu sy'n ymwrthol i driniaethau eraill. Fe'i defnyddir hefyd fel asiant ail linell i sulfasalazine mewn pobl â chlefyd llid y coluddyn , fel colitis briwiol a chlefyd Crohn. Fel arfer mae'n cael ei gymryd trwy'r genau[3].
Sgil effeithiau
[golygu | golygu cod]Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys chwydu neu deimlo'n gyfoglyd, poen yn yr abdomen, a'r dolur rhydd. Gall sgil effeithiau eraill gynnwys llid yr afu ac adweithiau alergaidd. Nid yw'n cael ei argymell ymhlith pobl sydd â chlefyd yr arennau terfynol. Er nad yw'n ymddangos bod niwed i'w ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd, nid yw 'r effeithiau wedi'i hastudio'n dda yn y boblogaeth hon. Credir bod asid para- aminosalisilig yn gweithio trwy atal gallu bacteria i greu asid ffolig.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cynhyrchwyd asid para- aminosalisilig gyntaf ym 1902 a daeth i ddefnydd meddygol ym 1943. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.
Defnydd meddygol
[golygu | golygu cod]Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Enwau
[golygu | golygu cod]Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Asid 4-Aminosalicylig, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Pubchem. "Asid 4-Aminosalicylig". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
- ↑ Drugbank Aminosalicylic Acid adalwyd 27 Chwefror 2018
- ↑ Medscape aminosalicylic acid (Rx) adalwyd 27 Chwefror 2018
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |